#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-743

Teitl y ddeiseb: Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Testun y ddeiseb: ​

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau gweithredu yn erbyn masnachu mewn anifeiliaid egsotig sy’n cael eu dal a’u magu ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yng Nghymru. Dylai hefyd wahardd trwyddedu pob busnes sydd ynghlwm â’r fasnach ddinistriol, greulon ac anfoesegol hon, gydag eithriadau clir ar gyfer canolfannau achub a chanolfannau achub trwyddedig. Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban, sydd wedi ymrwymo i adolygu masnachu a mewnforio anifeiliaid egsotig ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yn yr Alban ym mis Chwefror 2015, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd. Er mwyn i Gymru gael ei chymryd o ddifrif yn y gymuned gadwraeth fyd-eang, rydym o’r farn na allwn gael ein gweld yn caniatáu i’r fasnach hon barhau yn ein gwlad ein hunain. Mae hyn yn amlygu pryderon Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), Ffederasiwn Milfeddygon Ewrop (FVE) a'r RSPCA.

Mae anifeiliaid fel mwncïod, 'meerkats', ymlusgiaid a chrwbanod yn anifeiliaid gwyllt sy'n perthyn i’w cynefin naturiol, ac ni ddylent fod mewn cewyll a thanciau gwydr yng nghartref rhywun. Caiff dros 1000 o rywogaethau o famaliaid, adar, infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid a physgod eu magu a’u dal ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes egsotig. Ein dadl ni yw mai dim ond yn eu cynefinoedd naturiol y gellir bodloni anghenion cymdeithasol, corfforol ac ymddygiadol cymhleth yr anifeiliaid hyn. Hefyd, ceir tystiolaeth gref sy'n cysylltu’r fasnach mewn anifeiliaid egsotig â dinistrio cynefinoedd a difodiant rhywogaethau yn y gwyllt. Ochr yn ochr â dioddefaint anifeiliaid o'r fath wrth deithio - gan gynnwys llawer o gofnodion am farwolaethau - gall anifeiliaid ifanc dyfu i fod yn oedolion peryglus a all fynd dros ben llestri mewn amgylcheddau domestig nad ydynt yn addas i fodloni eu hanghenion lles am fwy o le a bwyd.

Cefndir

Anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2014-15, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amcangyfrif bod tua 4.2 y cant o aelwydydd Cymru yn cadw aderyn fel anifail anwes, a bod 1.4 y cant yn cadw ymlusgiad fel anifail anwes. Nododd arolwg RSPCA Cymru (PDF 1.22MB) yn 2015 bod 9 y cant o aelwydydd Cymru yn berchen ar barot, neidr, madfall neu fwnci, neu wedi bod yn berchen ar un o'r anifeiliaid hynny yn y gorffennol. Mae Cymdeithas Cynhyrchwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes, neu'r PFMA, yn amcangyfrif y cadwyd 1.3 miliwn o adar, nadroedd, crwbanod a môr-grwbanod fel anifeiliaid anwes mewn aelwydydd yn y DU yn 2015, ac mae Ffederasiwn Brydeinig yr Ymlusgolegwyr (PDF 2.99MB) yn amcangyfrif y cedwir dros 7 miliwn o ymlusgiaid ac amffibiaid fel anifeiliaid anwes. Yn 2016, cyflwynoddCanolfan Derbyn Anifeiliaid Heathrow adroddiad yn nodi y bu i 200,000 o ymlusgiaid gyrraedd y DU.

Pryderon ynghylch anifeiliaid anwes egsotig

Gall anifeiliaid anwes egsotig fod ag anghenion gofal a all fod yn heriol ac yn gostus i'w diwallu, ac mae arbenigwyr milfeddygol weithiau yn anodd eu cael. Mae rhanddeiliaid yn nodi eu pryderon bod prynu anifeiliaid anwes heb y lefel ddigonol o wybodaeth neu heb baratoi yn ddigonol yn gallu arwain at amddifadu neu greulondeb, hyd yn oed os yw hynny'n anfwriadol.  Mae RSPCA Cymru (PDF 1.22MB) yn nodi i'r sefydliad dderbyn 407 o gwynion o greulondeb tuag at bysgod, adar egsotig a mamaliaid yng Nghymru yn 2014.    Rhwng 2012 a 2014, erlynodd RSPCA naw diffynnydd yng Nghymru am droseddau a oedd yn ymwneud ag anifeiliaid anwes egsotig.  Ymhlith yr achosion a oedd yn ymwneud ag anifeiliaid anwes egsotig, roedd mwnci Marmoset a gafodd ei ganfod yng Nghasnewydd, menyw a gafodd ei brathu gan beithon 3 metr o hyd yn Abertawe, a draig farfog a anfonwyd yn y post i siop anifeiliaid anwes yng Nghaerdydd. Ynghlwm wrth rywogaethau peryglus neu wenwynig, mae risgiau i iechyd a diogelwch unigolion. Mae data GIG Cymru ynghylch derbyniadau ysbyty ar gyfer 2015/16 yn cynnwys chwe derbyniad oherwydd brathiadau a chyswllt ag ymlusgiaid a phryfed cop.

Yn fwy diweddar, mynegwyd pryderon ynghylch y cynnydd mewn gwerthu anifeiliaid anwes dros y we. Awgrymir y gellir cael gafael ar ystod o rywogaethau yn hawdd ac yn sydyn ar y we, gan arwain at bobl yn prynu heb ystyried y peth yn iawn. Mae rhanddeiliaid yn dadlau nad yw gwerthwyr yn ddarostyngedig i'r un meini prawf llym ag ydyw siopau anifeiliaid anwes, gan arwain at warchodaeth brin o safbwynt yr anifeiliaid ac o safbwynt y prynwyr. Canfu'r ymchwiliad 'One Click Away', ar unrhyw bryd, yr hysbysebir tua 25,000 o anifeiliaid anwes egsotig ar werth ar y chwe gwefan a astudiwyd.

Wrth ymateb i argymhelliad a wnaed mewn ymchwiliad i brimatiaid fel anifeiliaid anwes, nododd Llywodraeth y DU:

The Government considers that regardless of the age of the Pet Animals Act 1951, it still provides appropriate protection for the welfare of animals sold as pets. The 1951 Act makes clear that a pet shop is: the "carrying on at premises of any nature (including a private dwelling) of a business of selling animals as pets…". This would therefore include businesses selling primates over the internet. Even a business selling over the internet must have premises where the animals are held and therefore should be licensed and subject to inspection.

Roedd yr ymateb hefyd yn crybwyll gwaith y Grŵp Cynghori ynghylch Hysbysebu Anifeiliaid Anwes. Caiff y Grŵp gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n hybu'r angen i hysbysebu anifeiliaid anwes yn gyfrifol trwy addysgu a chydweithio rhwng sefydliadau lles a gwefannau.

Deddfwriaeth sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes egsotig

Deddfwriaeth yng Nghymru

Mae Adran 9 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, sy'n gymwys i Gymru a Lloegr,  yn gosod dyletswydd ar berchnogion anifeiliaid anwes i ofalu am anghenion sylfaenol eu hanifail, mae'n cyflwyno dirwyon sy'n fwy llym am amddifadu neu greulondeb, ac mae'n rhoi rhagor o bwerau i orfodwyr allu ymyrryd. Mae'r llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon yn nodi fel a ganlyn:

It is the owner’s responsibility to exercise a duty of care and to be responsible. Severe penalties can be imposed by the courts for not fulfilling such obligations, although I recognise it is better to avoid problems than to deal with them.

Defnyddiwyd y ddogfen The Good Practice Guidelines for the Welfare of Privately Kept Reptiles & Amphibians (PDF 2.99MB), a gefnogir gan Lywodraeth y DU, yn sail i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Nid yw mynd yn groes i'r canllawiau yn drosedd ynddo'i hun, ond os bydd unrhyw gyhuddiadau yn cael eu gwneud o dan Adran 9 o'r Ddeddf, gall y Llys gyfeirio at y canllawiau. Mae'r ddogfen Code of Practice for the Welfare of Privately Kept Non-Human primates (the Primate Code) 2010 (PDF 771KB) yn gymwys i Loegr yn unig.

Mae gofyniad yn y Ddeddf Anifeiliaid Peryglus 1976 i berchnogion anifeiliaid fod â thrwydded i gadw mathau penodol o anifeiliaid a ystyrir yn wyllt, peryglus neu egsotig. Ceir trwyddedau gan awdurdodau lleol wedi iddynt gynnal asesiad ar y perchennog a'r fangre lle y bydd yr anifail yn cael ei gadw.

Mae'r Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 yn diogelu lles anifeiliaid a werthir fel anifeiliaid anwes, gan ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw berson sy'n cadw siop anifeiliaid anwes i ddal trwydded gan y cyngor lleol.

Mae Adran 14(1) o'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981yn ei gwneud yn drosedd i ryddhau anifail nad ydyw'n frodorol, neu adael i'r anifail hwnnw ddianc i fywyd gwyllt. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu mewnforio rhywogaeth nad ydyw'n frodorol i'r DU wneud cais am drwydded

Mae'r Ddeddf Trwyddedu Sŵ 1981 (PDF 775KB) yn ei gwneud yn ofynnol cynnal arolwg a thrwyddedu pob sŵ ym Mhrydain.

Mae'r Gorchymyn Lles Anifeiliaid wrth Gludo (Cymru) 2007yn ymdrin â chludo anifeiliaid asgwrn cefn mewn cysylltiad â gweithgarwch economaidd.

Yn neddfwriaeth bresennol Cymru, nid oes unrhyw fesurau i drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, neu warchodfeydd. Nododd adroddiad a gyhoeddwyd yn 2012 (PDF 2857KB) gan Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru bryderon sydd ynghlwm wrth y diffyg rheoleiddio yn y maes hwn. Mae erthygl yn y Blog 'Pigion' yn cynnig rhagor o fanylion. Yn sgil yr adroddiad, daeth deiseb i law, ac mae manylion y ddeiseb i'w gweld isod yn y rhan ar 'gamau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Cyfraith a chonfensiwn ynghylch masnach rhyngwladol

Mae'r Confensiwn ar Fasnach Rhyngwladol Rhywogaethau mewn Perygl a Fflora a Ffawna gwyllt (CITES) yn amcanu i sicrhau nad yw masnachu anifeiliaid a phlanhigion gwyllt yn peryglu eu goroesiad. Mae miloedd o rywogaethau sydd o dan reolaeth angen trwydded ar gyfer eu mewnforio, eu hallforio ac unrhyw fudd masnachol a wneir ohonynt. Yr Awdurdod Rheoli CITES dynodedig yn y DU yw adran Bywyd Gwyllt Defra. Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion sy'n dyfarnu trwyddedau a thystysgrifau.

Yn 2007, cyflwynwyd gwaharddiad parhaol ar fewnforio adar gwyllt sydd wedi cael eu dal i'r UE. Ymateb oedd hyn yn bennaf i'r ffliw adar, ond canmolwyd hynny gan sawl NGO gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Parotiaid Gwyllt, yr RSPB a Chymorth Anifeiliaid oherwydd y canlyniadau o ran lles a chadwraeth.

Trwyddedu Anifeiliaid

Fel arfer, trwyddedir anifeiliaid ar sail 'rhestr negatif', sy'n golygu bod cyfyngiadau o ran y rhywogaethau penodol y gellir cael gafael arnynt, neu fod angen trwydded i gael anifeiliaid o'r fath. Y dull a ddefnyddir yn y DU yw defnyddio sawl rhestr negatif, sy'n golygu bod angen edrych ar sawl gofyniad deddfwriaethol fel ei gilydd. Heb ddiweddariadau parhaus, awgrymir bod posibilrwydd na cheir cyfeiriad mewn deddfwriaeth ar gyfer materion a fydd yn codi. Dull arall y gellid ei ddefnyddio fyddai 'rhestrau positif', lle bo rhywogaethau sy'n addas i'w cadw gan unigolion preifat yn cael eu nodi ar un rhestr benodol. Mae pob rhywogaeth arall naill ai wedi'i gwahardd neu angen trwydded i'w chadw.  Ar y diwydiant anifeiliaid anwes y mae'r baich i ddarparu tystiolaeth wyddonol sy'n dangos bod rhywogaeth yn addas i'w chadw fel anifail anwes. Ceir rhagor o wybodaeth ar y modd y gellid defnyddio rhestrau positif ar wefan ENDCAP.

Pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at  y pryderon a fynegwyd gan dri sefydliad yn benodol, sef Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), Ffederasiwn Milfeddygon Ewrop (FVE) a Chymdeithas Frenhinol Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA).

Safbwynt RSPCA

Mae'r RSPCA yn rhan o gynghrair o elusennau sy'n ymgyrchu o blaid gwahardd cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes . Yn ei llythyr at y Cadeirydd, nododd Ysgrifennydd y Cabinet yr ymgyrch hon, gan ddweud:

Arrangements are in place for my officials to discuss the RSPCA campaign in greater detail over the coming months.

Argymhellodd RSPCA Cymru yn ei adroddiad Materion Lles Anifeiliaid ar gyfer y Pumed Cynulliad y dylai Llywodraeth Cymru wneud fel a ganlyn:

undertake a wholesale review of legislation surrounding the dealing, trading and selling of animals; including a key focus of the regulation of animals sold online.

Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd ar les anifeiliaid gwyllt (PDF 1.22MB) yn galw am ragor o gyllid i archwilio masnach anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru,  er mwyn cael system drwyddedu neu gofrestru ar gyfer gwarchodfeydd anifeiliaid. 

Safbwynt BVA

Mynegodd BVA bryderon ynghylch lles a masnach anifeiliaid anwes egsotig. Yn 2015, cyhoeddodd BVA ddatganiad ar y cyd ar anifeiliaid anwes anhraddodiadol (PDF 141KB) ynghyd â Chymdeithas Filfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain (BSAVA), Cymdeithas Filfeddygol Sŵolegol Prydain (BVZS) a Chymdeithas Filfeddygol ar gyfer Pysgod (FVS). Mae'r datganiad yn cynnig nifer o argymhellion ynghylch rheoleiddio a gorfodi, gan gynnwys gwahardd mewnforio ymlusgiaid ac amffibaid gwyllt sydd wedi cael eu dal i'r UE. Mae'r BVA hefyd yn rhan o'r ymgyrch i wahardd cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes.

Safbwynt FVE

Mae FVE yn sefydliad ymbarél sy'n cynnwys sefydliadau milfeddygol o 38 gwlad Ewropeaidd. Yn 2013, galwodd ar lywodraethau gwledydd Ewrop i gyfyngu ar gadw anifeiliaid egsotig fel anifeiliaid anwes

Sefydliadau eraill

Mae sefydliadau hefyd yn ymgyrchu o blaid cadw anifeiliaid anwes egsotig. Er enghraifft, mae Ffederasiwn Herpetologwyr Prydain yn cynnal ymgyrch 'Hands Off Our Hobby' a sefydlwyd i ymateb i gyhoeddiad adolygiad Llywodraeth yr Alban. Mae'r ymgyrch 'Hands Off Our Hobby' gan OATA (Ornamental and Aquatic Trade Association) yn gweithio i amddiffyn yr hobi o gadw pysgod addurniadol

Sefydlwyd Cymdeithas Masnach Anifeiliaid Anwes Egsotig ac Ymlusgiaid (REPTA) i gynrychioli barn y rheiny sydd ynghlwm wrth y fasnach ac sy'n pryderu am yr effaith bosibl a gaiff ymgyrchoedd yn erbyn anifeiliaid anwes egsotig. Mae'r cyflwyniad 'Overview of the Exotic Pet Trade in the UK' (PDF 3.74MB) yn cynnig rhagor o fanylion.

Adolygiad yr Alban ar fasnach a mewnforio anifeiliaid egsotig.

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at y camau gweithredu a wnaed gan Lywodraeth yr Alban. Ym mis Chwefror 2015, ymrwymodd Richard Lochhead, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd yn Llywodraeth yr Alban, y byddai'n cynnal adolygiad o drefniadau masnach a mewnforio anifeiliaid egsotig a gedwir fel anifeiliaid anwes. Ym mis Tachwedd 2015, cynhaliodd Llywodraeth yr Alban gyfarfod rhanddeiliaid. Codwyd yr adolygiad Yn Senedd yr Alban (PQ S5W-04082) ym mis Tachwedd 2016. Ymatebodd Roseanna Cunningham, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir fel a ganlyn:

The review of the exotic pet trade is part of a wider review of pet welfare, which is a substantial and on-going piece of work. Initial meetings with stakeholders have already been held on exotic pets and breeding and sale of pets and further meetings are planned to discuss what the welfare challenges are and on how animal welfare might be best assured in various situations.

Once the review is completed, proposals for changes to the current legislation and/or policies relating to pet welfare will be developed and, in due course, consulted on. It is still too early in the process to suggest what those changes might be.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl am ganlyniad adolygiad yr Alban. Sonnir am y camau gweithredu a wneir yn Lloegr hefyd, yn arbennig at ailstrwythuro'r trefniadau trwyddedu ar gyfer sefydliadau anifeiliaid, megis siopau anifeiliaid anwes.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid anwes. Mae ail ran y cynllun gweithredu blynyddol hwn yn rhychwantu 2016-17.  Yn ei llythyr at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y cynllun gweithredu, gan bwysleisio'r ymrwymiad a wnaed i adolygu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae hyn hefyd yn cynnwys ystyried a oes angen Codau Ymarfer ychwanegol ar gyfer rhywogaethau eraill, megis anifeiliaid egsotig.  Mae gohebiaeth Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn crybwyll y Grŵp a sefydlwyd ynghylch Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Fframwaith a chynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid.

Ym mis Rhagfyr 2016, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid, gan gynnwys Syrcasau a fanylodd ar y cynlluniau i ddatblygu rhaglen drwyddedu neu gofrestru er mwyn rheoli Arddangosfeydd Anifeiliaid Symudol.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd deiseb yn y Pedwerydd Cynulliad, sef P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru a oedd yn galw am reoleiddio gorfodol ar sefydliadau achub anifeiliaid. Trafodwyd y ddeiseb am y tro cyntaf gan Y Pwyllgor Deisebau fis Medi 2013, a daeth y trafodaethau i ben ym mis Ionawr 2016.  O ganlyniad, cynhaliwyd adolygiad newydd gan Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, a gynhyrchodd atodiad at yr adroddiad a fu'n wreiddiol yn sail i'r ddeiseb. Nodwyd y posibilrwydd o greu Cod Ymarfer ar gyfer anifeiliaid anwes egsotig, a fyddai'n cael ei gynnwys yn yr adolygiad ehangach o Godau Ymarfer Lles Anifeiliaid, yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 2 Tachwedd 2016 yn ystod y sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.